Sue Peace - Dyscalcwlia Cymru

Sue Peace
Mae Sue yn gweithio yn broffesiynol fel athrawes ac ymgynghorydd Brain Gym® yn
helpu myfyrwyr ac oedolion i gyrraedd eu potensial dysgu.
Mae hi’n hyfforddwr Brain Gym trwyddedig. Mae gan Sue cymhwyster SpLDPAC (Tystysgrif Anawsterau Dysgu Penodol ac
Asesu Ymarferol gyda PATOSS (Sefydliad Athrawon Addysg Arbennig Broffesiynol ).
Hefyd mae gan Sue gymhwyster AMBDA gan Sefydliad Dyslecsia Prydeinig. Mae Sue yn aelod proffesiynol o’r
Sefydliad Cinesioleg Prydeinig a’r Sefydliad Cinesioleg Addysgol y Deyrnas Unedig. Dyscalcwlia, dyspracsia a
dyslecsia yw ei phrif ddiddordebau.
Maes ymchwil Sue yw dulliau “Symud a Dysgu” trwy system Brain Gym®. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu dulliau i
helpu myfyrwyr dyscalcwlig, dyspracsig a dyslecsig. Astudiodd radd uwch yn y maes hwn ym Mhrifysgol Bangor a’i
chwblhau yn 2006.
Ewch i weld traethawd Sue
Mae Sue yn athrawes brofiadol sydd wedi dysgu mathemateg yn Awstralia ac yng Nghymru ym mhob cyfnod allweddol yn
cynnwys TGAU a Lefel A.
Mae hi’n rhoi hyfforddiant mewn Cinesioleg Addysgol(Brain Gym® ) i athrawon, cynorthyddion y dosbarth, gweithwyr
proffesiynol eraill a rhieni ac yn gweithio fel ymgynghorydd preifat. Hi yw cynllunydd y rhaglen Symud Rhifedd ar
gyfer rhai sydd ag anawsterau penodol Mathemategol. Cyhoeddwyd erthygl “An Educational Kinesiology Approach to
Dyscalculia” gan Sue ym mwletin PATOSS, Mehefin 2007.
Brain Gym® Mae Brain Gym yn mynd i’r afael â nodweddion ag elfennau corfforol sy’n dylanwadau ar y broses o
ddysgu - y gweledol, y clywedol, sgiliau echddygol manwl ac osgo. Mae’r rhain yn sgiliau y mae’r rhan fwyaf o
addysgwyr yn eu hanwybyddu’n llwyr.” Mae honiadau ynglŷn â manteision Brain Gym yn seiliedig ar gynnydd a welwyd
mewn nifer fawr o blant. I weld ymchwil diweddaraf Brain Gym® ewch i www.braingym.org.uk
|