Sut
gallwn i helpu?
Mae Dyscalcwlia Cymru yn cynnig nifer o gyrsiau
amrywiol ar gyfer Ysgolion, Addysgwyr, Rhieni,
Gwarcheidwaid a Gofalwyr.
Mae’r
sesiynau’n canolbwyntio ar ddysgu nifer o dechnegau Cinesioleg
Addysgol a fydd yn rhoi cymorth i unigolion ddatblygu eu
sgiliau rhifedd.
Mae’r rhaglen Rhifedd Symud, sydd wedi’i chynllunio gan Sue
Peace, yn seiliedig ar bwysigrwydd symud wrth ddysgu. Mae
rhaglen yn cynnig fframwaith sy’n ymdrin â’r cysyniadau
canlynol:
- Bod ag ofn mathemateg
- Deall rhif
- Creu dilyniant
- Adnabod cyfarwyddiadau e.e. chwith a de
- Sgiliau amgyffred
Mae’r dull hwn yn cynorthwyo unigolion dyscalcwlig i
ddatblygu eu hunanhyder yn ogystal â strategaethau a fydd yn eu
galluogi i ymdrin â mathemateg o ddydd i ddydd.
Cyrsiau-2008-2009
|